National Assembly for Wales
Health and Social Care Committee

Follow-up inquiry on the contribution of community pharmacy to health services

Evidence from Public Health Wales – CP 3

Compressed Public Health Wales logo

 

 

Ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - dilyniant

 

Cyfeiriad

Y Deml Heddwch ac Iechyd, Caerdydd CF100 3NW

 

Manylion cysylltu

Paratowyd yr ymateb hwn gan y Tîm Iechyd Cyhoeddus Fferyllol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Cyfeiriwch unrhyw ymholiadau at:

XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX

 

 

Y Cefndir

Sefydlwyd Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 1 Hydref 2009 ac mae ganddi bedair swyddogaeth statudol:

·      Darparu a rheoli ystod o wasanaethau iechyd cyhoeddus, diogelu iechyd, gwella gofal iechyd, rhoi cyngor ynghylch iechyd, amddiffyn plant a gwasanaethau labordy microbiolegol a gwasanaethau sy'n berthnasol i gadw golwg ar glefydau trosglwyddadwy, eu hatal a'u rheoli;

·      Datblygu a chynnal trefniadau i sicrhau bod gwybodaeth am faterion sy'n gysylltiedig â diogelu a gwella iechyd yng Nghymru ar gael i'r cyhoedd; cynnal a chomisiynu ymchwil i faterion o'r fath a chyfrannu at ddarparu a datblygu hyfforddiant yn y materion hyn;

·      Casglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth mewn ffordd systematig am iechyd pobl Cymru yn benodol, gan gynnwys am nifer yr achosion o ganser, y gyfradd sy'n marw o'r clefyd ac yn ei oroesi, a nifer yr achosion anrheolaidd cynhwynol; 

·      Darparu, rheoli, monitro, gwerthuso a chynnal ymchwil i sgrinio cyflyrau iechyd a sgrinio materion sy'n gysylltiedig ag iechyd.

 

 

Darparodd Iechyd Cyhoeddus Cymru dystiolaeth ysgrifenedig a llafar i ymchwiliad 2012 i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i'r gwasanaethau iechyd yng Nghymru.  Diolchwn i'r Pwyllgor am y cyfle i gyfrannu at yr adolygiad hwn.

 

1.1

 

 

 

Argymhelliad 1

Yn 2012-13, arweiniodd Tîm Fferyllol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, brosiect ymgysylltu â rhanddeiliaid i archwilio i anghenion fferyllol pobl sy'n byw yn ardaloedd gwledig Cymru (Ceredigion a Phowys).   Casglwyd barn pobl drwy holiadur a anfonwyd at bron 1500 o aelodau panelau dinasyddion ac mewn cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb â 14 o grwpiau o randdeiliaid.

1.2

Un mater penodol a godwyd oedd cludo presgripsiynau i gartrefi cleifion a'r ffaith nad oedd pobl yn gwybod a oedd y gwasanaeth ar gael neu beidio. Yn sgil hyn cafwyd awgrym mwy cyffredinol gan gleifion / dinasyddion y dylai fferyllfeydd cymunedol hysbysebu'n fwy clir y gwasanaethau y maent yn eu cynnig gan ddweud pa rai sy'n wasanaethau'r GIG a pha rai sy'n breifat.  Daeth yr ymatebion hyn ar ôl cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r awgrym yw bod cleifion yn dal i'w chael hi'n anodd cael gwybod am yr ystod o wasanaethau sydd ar gael mewn fferyllfa.

Adroddiad y prosiect ymgysylltu â rhanddeiliaid  - gweler hefyd Atodiad 1

 

1.3

Mae gwybodaeth am y gwasanaethau a gynigir gan fferyllfeydd cymunedol ar gael ar wefan Galw GIG Cymru. Serch hynny, efallai nad yw cleifion na'r cyhoedd yn ymwybodol o'r adnodd hwn ac efallai ei bod hi'n anodd i rai fynd ar y rhyngrwyd.  Hefyd, efallai nad yw hi'n glir i gleifion pa rai o'r gwasanaethau a gynigir sy'n wasanaethau'r GIG a pha rai sy'n wasanaethau preifat ac y mae'r claf yn talu amdanynt.

 

2.1

Argymhelliad 2

Fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor, er mwyn sicrhau bod fferyllfeydd cymunedol yn cyfrannu gymaint ag sy'n bosibl at wella iechyd pobl Cymru, mae angen arweiniad ac ymdrech gan Lywodraeth Cymru.  Dau faes lle mae hyn yn arbennig o berthnasol yw:

  • Sicrhau systemau TG addas-at-y-diben.  Rhaid i'r system TG alluogi fferyllwyr i gael gafael ar ddigon o ddata am gleifion i ddarparu gwasanaethau'n ddiogel ac yn effeithiol a hefyd i hwyluso trefniadau talu, ac i fonitro a gwerthuso gwasanaethau.
  • Sefydlu fframwaith contract 'addas-at-y-diben' ar gyfer fferyllfeydd cymunedol, er mwyn cymell fferyllfeydd dan gontract i ddarparu gwasanaethau sy'n cyfateb i nodau a blaenoriaethau GIG Cymru.

2.2

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymwybodol o'r arweiniad a gynigir gan y Prif Swyddog Fferyllol o ran datblygu fferyllfeydd cymunedol, ond hefyd yn ymwybodol bod yr adnoddau sydd ar gael i fwrw ymlaen â thasg o'r maint hwn yn brin ar hyn o bryd.

 

3.1

Argymhelliad 3

Deallwn fod y Cynllun Anhwylderau Cyffredin a dreialwyd wedi mabwysiadu system cofrestru cleifion, a bod y fferyllfeydd yn cael eu talu ar sail nifer y cleifion sydd wedi cofrestru, yn hytrach nag ar sail ffi fesul eitem. Mae hyn felly'n cynnig cyfle felly i archwilio gwahanol fodelau talu ar gyfer fferyllfeydd cymunedol.

 

4.1

Argymhelliad 4

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi'r model a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu'r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin h.y. dysgu yn sgîl tystiolaeth sydd wedi'i chyhoeddi ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddatblygu'r gwasanaeth; comisiynu gwerthusiad trwyadl o'r gwasanaeth ar y cychwyn un; sicrhau bod datrysiadau TG yn cael eu datblygu lle bydd gofyn; gwerthuso'r ardaloedd peilot er mwyn gallu rhoi unrhyw wersi a ddysgwyd ar waith cyn lledaenu'r cynllun drwy'r wlad.

4.2

Nid ydym yn gwybod am unrhyw ddatblygiadau ar gyfer Gwasanaeth Cyflyrau Cronig ac rydym yn ansicr ynghylch yr hyn a oedd yn cael ei gynnig, y tu hwnt i'r darpariaethau sydd ar gael eisoes drwy fframwaith y contract i gynorthwyo cleifion sydd â chyflyrau cronig, er enghraifft, drwy eu cyfeirio, darparu meddyginiaethau tymor hir, rhoi cyngor am ffordd iach o fyw a chynnig adolygu'r meddyginiaethau a ddefnyddir ganddynt. 

4.3

Ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arweiniad ynglŷn â chyflwyno brechiadau rhag ffliw mewn fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru.  Cyhoeddwyd gwerthusiad o flwyddyn gyntaf y gwasanaeth hwn gan Lywodraeth Cymru.

4.4

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn argymell defnyddio asesiad anghenion/ asesiad anghenion fferyllol i weld beth yw'r anghenion iechyd yn lleol ac yn genedlaethol, ac felly, mae'n croesawu'r cynnig yn y papur gwyn Iechyd Cyhoeddus (Ebrill 2014) sy'n ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Iechyd gynnal asesiad o anghenion fferyllol er mwyn penderfynu pa wasanaethau fferyllol sydd eu hangen yn lleol.  Wrth i bob Bwrdd Iechyd gyhoeddi ei asesiad o’r anghenion fferyllol, bydd materion cenedlaethol yn codi ac fe all y rhain ddod yn ffocws ar gyfer gwasanaethau cenedlaethol ychwanegol.   Ar hyn o bryd, nid yw bob tro'n hawdd gweld pa wasanaethau cenedlaethol y mae gofyn eu darparu.  Mae llawer o'r gwasanaethau fferyllol ychwanegol a awgrymwyd yn cael eu cynnig gan ddarparwyr eraill, e.e. nyrsys, meddygon teulu, clinigau allgymorth ysbytai a chyrff y trydydd sector. Felly, efallai fod diffyg gwasanaethau fferyllol yn golygu bod y  gwasanaethau a ddarperir yn annigonol i ddiwallu'r angen clinigol, neu efallai nad yw’n golygu hynny, a dibynnu ar ba wasanaethau amgen sydd ar gael.  

4.5

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn argymell y dylid cynnal adolygiad o'r llenyddiaeth er mwyn cael sail ar gyfer unrhyw gynnig i sefydlu gwasanaeth cenedlaethol ychwanegol.  Dylai'r corff o dystiolaeth y seilir yr ymyriad arno ddylanwadu ar ba mor gyflym ac i ba raddau y bydd y dystiolaeth yn wan, bydd yn briodol symud yn arafach a bydd mwy o angen gwerthuso.  Ar y llaw arall, mewn meysydd megis rhoi'r gorau i ysmygu, lle mae tystiolaeth gadarn ar gael o blaid effeithiolrwydd ymyriadau fferylliaeth gymunedol, gellid lledaenu pethau'n fwy cyflym.  Gall gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu mewn fferyllfeydd cymunedol helpu byrddau iechyd i gyflawni targedau haen 1. Mae hon yn enghraifft dda o sut y gallai gwasanaeth mewn fferyllfa gymunedol sydd â sylfaen dystiolaeth gadarn helpu i wireddu blaenoriaethau GIG Cymru.

 

5.1

Argymhelliad 5

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydlynu ac yn gwerthuso hyd at dair ymgyrch iechyd cyhoeddus genedlaethol drwy'r fferyllfeydd cymunedol bob blwyddyn, ar ran y Byrddau Iechyd.  Hyd yn hyn, mae'r ymgyrchoedd cenedlaethol a ganlyn wedi'u cynnal ac mae'r adroddiadau llawn i'w gweld drwy ddilyn y dolenni:

 

5.2

Thema: Perygl Diabetes

Dyddiad yr ymgyrch: Mehefin 2011

Cyfradd ymateb y fferyllfeydd 73%

 

5.3

Thema Rhaglenni addysg i gleifion

Dyddiad yr ymgyrch: Ebrill 2012

Cyfradd ymateb y fferyllfeydd 52%

5.4

Thema: Perygl strôc

Dyddiad yr ymgyrch: Medi 2012

Cyfradd ymateb y fferyllfeydd 86%

 

5.5

Thema: Carwch eich ysgyfaint

Dyddiad yr ymgyrch: Tachwedd 2012

Cyfradd ymateb y fferyllfeydd 82%

 

5.6

Thema: Strôc

Dyddiad yr ymgyrch: Mai 2013

Cyfradd ymateb y fferyllfeydd. Ni ofynnwyd i fferyllfeydd dan gontract gofnodi na dychwelyd gwybodaeth benodol am nifer y cysylltiadau a wnaethant yn ystod yr ymgyrch. Yn hytrach, cytunwyd y byddai'r newid yn nifer ac yng nghyfran ymgynghoriadau Adolygiadau o'r Defnydd o Gyffuriau ar gyfer y grŵp targed yn cael ei fesur ar sail data hawliadau am Adolygiadau o'r fath a gyflwynid i Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG. (Mae'r rhesymeg dros hyn i'w gweld yn yr adroddiad llawn).  Yn ystod yr ymgyrch, cwblhaodd fferyllwyr 10,059 Adolygiad o'r Defnydd o Gyffuriau gyda phobl sy'n cymryd meddygaeth benodol a ddangosai fod mwy o berygl i'r unigolyn gael strôc. Ychydig o dan 47% o'r holl Adolygiadau a gynhaliwyd yn y cyfnod hwnnw oedd hyn. Wrth ddadansoddi data hawliadau Adolygiadau o'r Defnydd o Gyffuriau, gwelwyd bod cynnydd ystadegol arwyddocaol yng nghyfran yr Adolygiadau ar gyfer y grŵp targed o'i chymharu â'r pedwar mis cyntaf yn union cyn cynnal yr ymgyrch ac â'r mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol.

 

5.7

Thema: Gofalu am eich llygaid

Dyddiad yr ymgyrch: Gorffennaf 2013

Cyfradd ymateb y fferyllfeydd: Unwaith eto, ni ofynnwyd i fferyllfeydd dan gontract gofnodi na dychwelyd gwybodaeth benodol am nifer y cysylltiadau a wnaethant yn ystod yr ymgyrch. Cytunwyd i fesur nifer a chyfran yr ymgyngoriadau’r Adolygiadau o'r Defnydd o Gyffuriau ar gyfer y grŵp targed. Pan gyflwynwyd hawliadau ar gyfer ymgyngoriadau’r Adolygiadau a gynhaliwyd yn ystod cyfnod yr ymgyrch, gwahoddwyd fferyllwyr i ddangos (drwy dicio blwch) a oedd yr Adolygiad wedi'i ysgogi gan yr ymgyrch iechyd cyhoeddus.  Yn ystod cyfnod yr ymgyrch, cynhaliwyd 17,701 ymgynghoriad Adolygu'r Defnydd o Gyffuriau. O blith y rhain, dywedodd fferyllwyr fod 1,933 (10.9%) wedi'u cynnal gyda phobl a oedd yn cymryd meddyginiaethau ar gyfer cyflyrau iechyd y llygaid megis glawcoma a gorbwysedd ocwlar.  Roedd fferyllwyr yn fwy tebygol o nodi camau i wella'r ffordd y defnyddid meddyginiaethau yn ystod Adolygiad a oedd wedi’i ysgogi gan un o ymgyrchoedd GIG Cymru nag yr oeddent yn sgil adolygiadau eraill a gynhelid yn ystod cyfnod yr ymgyrch.

 

5.8

Mae cyfradd ymateb y fferyllfeydd yn dangos i ba raddau y cymerodd fferyllfeydd yng Nghymru ran yn yr ymgyrchoedd.  Efallai fod rhai fferyllfeydd wedi cymryd rhan ond wedi methu â dychwelyd gwaith papur i'w werthuso.

 

6.1

Argymhelliad 6

Ym mis Gorffennaf 2011 cyhoeddodd y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu ddatganiad ar y cyd yn dweud sut y gall meddygon teulu a fferyllwyr cymunedol gydweithio i wella'r gofal a roddir i gleifion yn y gymuned.  Nid ydym yn gwybod am ddatblygiadau pellach i hyrwyddo cydweithredu a chydweithio rhwng fferyllwyr cymunedol a meddygon teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd Byrddau Iechyd Lleol a Llywodraeth Cymru'n gallu sôn rhagor am hyn.

 

7.1

Argymhelliad 7

Ar hyn o bryd, dim ond y cleifion hynny sy'n cymryd rhan yn rhaglenni peilot Anhwylderau Cyffredin sydd wedi'u cofrestru â fferyllfa gymunedol ar gyfer gwasanaethau'r GIG. 

7.2

Mae mynediad at gofnod cryno claf yn hollbwysig er mwyn i fferyllwyr allu darparu ystod ehangach o wasanaethau sydd o safon uwch.  Er enghraifft, mae'n anodd i fferyllydd helpu claf i gymryd ei feddyginiaeth os nad yw'n gwybod pam mae'r claf hwnnw'n cymryd y feddyginiaeth honno.  Mae llawer o feddyginiaethau wedi cael eu trwyddedu ar gyfer mwy nag un anhwylder ac felly, heb weld cofnod cryno'r claf, bydd y fferyllydd yn gorfod dyfalu. Er enghraifft, bydd rhai cyffuriau gwrth-iselder a rhai cyffuriau a ddefnyddir i reoli epilepsi hefyd yn cael eu defnyddio i ladd poen. 

7.3

Sefyllfa arall lle byddai cael gweld cofnod cryno claf sydd heb ei gofrestru'n gwella diogelwch y claf fyddai pe bai claf yn gofyn am gyflenwad brys o feddyginiaeth, er enghraifft pe bai wedi mynd oddi cartref ac wedi anghofio'i feddyginiaethau.

7.4

Wrth i rôl gwella iechyd fferylliaeth ddatblygu, bydd fferyllwyr yn dymuno cyfeirio cleifion fwyfwy at wasanaethau eraill ac, mewn ambell sefyllfa, er mwyn gallu atgyfeirio claf bydd angen cael gafael ar ei gofnod, er enghraifft, gyda’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i wneud Ymarfer Corff.


Atodiad : Prosiect Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Iechyd Gwledig: Wordle yn dangos y geiriau a ddefnyddiwyd gan aelodau'r panel dinasyddion i ddisgrifio fferyllfeydd cymunedol

Mae maint y ffont yn dangos pa mor aml y cafodd gair ei grybwyll a'r geiriau a ddyfynnwyd amlaf sydd fwyaf.